Fe fydd yn rhai chwalu tua 10,000 o dai yn Christchurch a throi cefn ar rai rhannau o’r ddinas yn gyfan gwbl, cyhoeddodd prif weinidog Seland Newydd heddiw.

Tarodd ddaeargryn 6.3 ar y raddfa Richter y ddinas at 22 Chwefror gan chwalu tai, adeiladau hynafol a swyddfeydd.

Mae o leiaf 166 o bobol wedi marw o ganlyniad i’r daeargryn ond fe allai hynny gynyddi i fwy na 200.

Dywedodd y Prif Weinidog, John Key, na fydd hi’n bosib ail-adeiladu ar rai rhannau o Christchurch oherwydd difrod i’r tir.

“Mae’r difrod mor eang nad ydyn ni’n gallu gwneud unrhyw beth amdano,” meddai John Key.

Ychwanegodd y byddai’n rhaid chwalu cannoedd o adeiladau masnachol ynghanol y ddinas.

“Mae yna rai rhannau o Cristchurch na fydd modd eu hadfer a bydd rhaid dod o hyd i rywle arall i bobol i fyw,” meddai.

Fe fydd gwasanaeth coffaol cenedlaethol yn cael ei gynnal ym mharc y ddinas ar 18 Mawrth. Mae disgwyl y bydd hyd at 100,000 o bobol yn cymryd rhan.

Yn ôl swyddogion mae tua 70,000 o bobol wedi gadael Christchurch am gyfnod yn dilyn y daeargryn.