Viktor Yanukovych
Mae Arlywydd yr Wcrain wedi bod yn cynnal trafodaethau dros nos ag arweinwyr y protestiadau, ar ôl i ddyddiau o drais yn y wlad ladd dros 100 o bobl.

Mewn ymgais i roi stop ar y trais mae’r ddwy ochr wedi dod at ei gilydd, ac mae disgwyl i’w trafodaethau barhau amser cinio heddiw.

Yn ôl yr adroddiadau diweddara’, mae’r dwy ochr yn agos at gytundeb.

Yr Arlywydd ‘am ildio rhywfaint’

Yn ôl Interfax Ukraine mae llefarydd ar ran yr Arlywydd, Viktor Yanukovych, wedi dweud ei fod yn “bwriadu ildio rhywfaint er mwyn cael heddwch” yn y wlad.

Mae’n ymddangos bod cefnogaeth Mr Yanukovych yn dirywio, gydag adroddiadau’n awgrymu bod pennaeth saff y fyddin, Yury Dumansky, yn bwriadu ymddiswyddo am nad oedd yn cytuno â’r penderfyniad i ddod â lluoedd arfog i mewn i wrthdaro sifil.

Ddoe oedd y diwrnod mwyaf gwaedlyd ers i’r trais ddechrau, gyda saethwyr sniper yn cael eu gweld yn saethu tuag at brotestwyr, a fideo’n dangos o leiaf un ohonynt yng ngwisg heddlu’r Wcrain.

Yn ôl Dr Oleh Musiy, meddyg sydd yn gweithio gyda’r protestwyr, cafodd dros 70 o brotestwyr eu lladd ddoe a dros 500 eu hanafu.

Dywedodd llefarydd ar ran y Weinidogaeth Gartref wrth Associated Press fod tri heddwas wedi’u lladd a bod 28 arall wedi’u saethu.

Ewrop neu Rwsia?

Ers tuag wythnos mae’r protestwyr a’r heddlu wedi bod yn gwrthdaro yn Sgwâr Annibyniaeth, neu’r Maidan, yn y brifddinas Kiev, gyda’r trais yn troi’n waedlyd yn y dyddiau diwethaf.

Mae’r protestwyr wedi bod yn casglu yn y sgwâr ers wythnosau oherwydd eu bod yn anhapus â llywodraeth Yanukovych.

Roedden nhw wedi bod yn galw am gysylltiadau agosach rhwng yr Wcrain â’r Undeb Ewropeaidd, tra bod llywodraeth Mr Yanukovych yn ffafrio perthynas agosach â Rwsia.

Diffyg democratiaeth

Maen nhw hefyd yn anhapus â llwgrwobrwyo yn y wlad, diffyg democratiaeth, ac economi sydd yn dioddef ac wedi gorfod dibynnu ar gymhorthdal ariannol gan Rwsia’n ddiweddar.

Mae’r Undeb Ewropeaidd eisoes wedi penderfynu gosod sancsiynau ar y rheiny sydd yn gyfrifol am y trais, gan gynnwys gwrthod caniatâd iddyn nhw deithio a rhewi asedau rhai swyddogion yn y llywodraeth.

Mae Dirprwy Arlywydd yr Unol Daleithiau, Joe Biden, hefyd wedi rhybuddio Mr Yanukovych eu bod nhw’n barod i osod sancsiynau os yw’r trais yn parhau.

Mae Arlywydd Rwsia Vladimir Putin wedi beio protestwyr radical am y trais, gan ddweud eu bod yn “poeni’n fawr” am y cynnydd mewn trais.