Yr Ysgrifennydd Tramor William Hague
Mae wyth o filwyr Prydeinig a oedd wedi gael eu cadw’n gaeth gan wrthwynebwyr y Cyrnol Muammar Gaddafi yn Libya bellach wedi cael eu rhyddhau.

Mae’r milwyr, aelodau o’r SAS a oedd yn hebrwng diplomydd ar gyfer trafodaethau â’r rebeliaid, wedi gadael y wlad am Malta ar fwrdd y llong HMS Cumberland.

Er gwaethaf y trafferthion y tro hwn, dywedodd yr Ysgrifennydd Tramor William Hague fod y Llywodraeth yn bwriadu anfon rhagor o ddiplomyddion yn fuan i “gryfhau deialog” gydag arweinwyr y gwrthwynebwyr i Gaddafi.

“Fe alla’ i gadarnhau bod tîm bach o ddiplomyddion Prydeinig wedi bod yn Benghazi,” meddai. “Fe aeth y tîm i Libya i gychwyn cysylltiadau gyda’r gwrthwynebwyr. Fe gawson nhw anawsterau, sydd bellach wedi cael eu datrys yn foddhaol. Maen nhw bellach wedi gadael Libya.

“Bwriadwn anfon tîm arall gyda hyn – mae’r ymdrech ddiplomyddol hon yn rhan o waith ehangach y Deyrnas Unedig yn Libya, gan gynnwys ein cymorth dyngarol.

“Rydym yn parhau i bwyso ar Gaddafi i ymddiswyddo a byddwn yn gweithio gyda’r gymuned ryngwladol i gefnogi dyheadau cyfiawn pobl Libya.”

Yn ôl adroddiadau, roedd gwarchodlu’r rebeliaid wedi cadw’r tîm SAS yn y ddalfa ar ôl darganfod ffrwydron, mapiau a phasports ffug yn eu bagiau wrth iddyn nhw gyrraedd Benghazi.

Y brwydro’n parhau

Fe ddaeth y newyddion heno wrth i’r brwydro yn Libya barhau i ffyrnigo, gyda’r ddwy ochr yn dal gafael mewn lleoliadau allweddol a rhyfel cartref yn ymddangos yn fwyfwy tebygol.

Mae adroddiadau am luoedd Gaddafi yn ymosod o’r awyr ar borthladd olew Ras Lanuf, ond yn methu â’i ailgipio. Ond mae’n ymddangos iddyn nhw lwyddo i ailgipio rheolaeth o dref Bin Jawwad, sydd tua 110 milltir i’r dwyrain o Sirte, tref enedigol Gaddafi.

Fe fu brwydro ffyrnig hefyd yn y brifddinas Tripoli y bore yma.