Teml yn nhalaith Orissa
Mae heddlu India wedi arestio dau ddyn ar ôl i giwed ddig o weithwyr haearn oedd wedi eu diswyddo roi un o benaethiaid y cwmni ar dân.

Ar ôl clywed y bydden nhw’n cael eu diswyddo, roedd tua dwsin o weithwyr wedi ymosod ar gar 4×4 oedd yn cario Radhey Shyam Roy wrth iddo adael y ffatri yn nwyrain talaith Orissa.

Fe wnaethon nhw orchuddio’r car â phetrol a’i losgi, meddai’r Uwch-arolygydd Ajay Kumar Sarangi.

Roedd dau berson arall yn y cerbyd wedi gallu ffoi ond cafodd Roy, 59 oed, ei ddal y tu mewn ac fe fu farw o ganlyniad i losgiadau difrifol.

Roedd yr heddlu yn cwestiynu dau weithiwr ac roedd hi’n debygol y byddwn nhw’n cael eu cyhuddo o lofruddiaeth, meddai Ajay Kumar Sarangi.

Mae trais diwydiannol yn gyffredin yn India, ac mae gweithwyr yn aml yn targedu prif weithredwyr cwmnïau ar ôl colli swyddi neu gyflog.