Mae pedwar o bobol wedi marw wrth i dywydd oer a stormydd eira effeithio ar rannau o ddwyrain Ewrop dros y dyddiau diwethaf.

Mae’r tywydd hefyd wedi effeithio cyflenwadau trydan, llwybrau teithio ac ysgolion.

Fe aeth dyn 76 oed yn sownd mewn lluwch eira ym mhentref Povet, ym Mwlgaria ac fe fu farw tri dyn arall mewn digwyddiadau yn ymwneud a’r tywydd garw.

Mae eira mawr wedi disgyn yng Nghroatia, sy’n wlad gyda hinsawdd gynnes y canoldir fel arfer, a hefyd yn Montenegro a Romania.

Mae’r tymheredd wedi cyrraedd -22C ym Moscow a -31C mewn ardaloedd cyfagos, sy’n 10C yn is na’r tymheredd fel arfer.

Mae cwmnïau rheilffordd wedi dweud fod dros 160 o drenau wedi cael eu canslo wrth i eira orchuddio rheilffyrdd Romania. Ac mae tua 5,000 o bobol wedi bod heb drydan yno.