Mae triniaeth ar gyfer pobol sy’n diodde’ o Hepatitis C wedi cael ei gymeradwyo gan Gomisiwn Ewrop. Yn ol y cwmni Gilead Sciences, sy’n gyfrifol am gynhyrchu’r cyffur, Sofosbuvir, fe fydd y cyffur hwn yn rhoi mwy o gyfle i fwy o bobol wella o’r afiechyd. “Mae’r cyffur hwn yn mynd i newid y sefyllfa’n llwyr,” meddai’r Athro Mark Thursz o’r Imperial College. “Rydyn ni wedi bod yn dilyn datblygiad y cyffur hwn dros y blynyddoedd diwetha’, gan edrych yn ofalus ar ganlyniadau’r treialon, ac yn cyffroi, mae’n rhaid dweud. “I mi, y cyffro mwya’ ydi’r newid go iawn y gall hyn ei wneud i fywydau cleifion.” Mae’r golau gwyrdd hwn gan Gomisiwn Ewrop yn golygu y bydd tabledi 400g Sofosbuvir yn cael eu gwerthu ym mhob un o 8 o wledydd yr undeb.