Mae prawf post mortem wedi dangos fod “olion anafiadau” ar gorff gwraig un o weinidogion llywodraeth India.

Fe ddaethpwyd o hyd i gorff Sunanda Pushkar mewn gwesty yn ninas Delhi nos Wener, a hynny ychydig oriau wedi i’w gwr, Shashi Tharoor, fynd i’r ysbyty yn diodde’ o boenau yn ei frest.

Roedd y cwpwl wedi bod yn ffraeo’n gyhoeddus ers dydd Mercher, wedi i negeseuon ar wefan gymdeithasol Twitter awgrymu ei fod e’n cael perthynas gyda gwraig arall.

“Roedd rhai olion anafiadau ar gorff Sunanda Pushkar, ond allwn ni ddim rhyddhau mwy o wybodaeth am natur yr anafiadau hynny ar hyn o bryd,” meddai llefarydd ar ran y meddygon fu’n cynnal y post mortem.

“Ond doedd dim arwydd o wenwyn yn ei chorff, a doedd dim arwydd ei bod wedi ei dal yn gaeth nac wedi ei llofruddio.”