Mae rhybuddion am danau mewn grym yn ne-orllewin Awstralia, gyda’r tymheredd mewn sawl ardal yn uwch na 40C.

Mae rhybuddion brys wedi eu rhoi yn ardal Victoria, gyda gwasanaethau tan yn cynghori pobol i adael eu cartrefi oherwydd bod “tanau gwyllt yn lledu i’r de-orllewin”.

Hefyd, mae dros 14,000 o gartrefi wedi colli cyflenwad trydan oherwydd stormydd a mellt a tharanau.

Ym Mhencampwriaeth Agored Awstralia, fe wnaeth chwaraewr tenis, swyddogion ac aelodau o’r gynulleidfa lewygu oherwydd y gwres.

Mae’r gwasanaethau brys wedi gwahardd unrhyw un rhag cynnau tan yn Victoria ac maen nhw’n rhagweld y bydd y tymheredd yn codi yn y dyddiau nesaf.

Ym mis Hydref, fe gafodd 200 o gartrefi eu difrodi wrth i 100 o danau gwyllt ledu yn gyflym ar draws Sydney.