Ian Davies
Mae dyn wedi ymddangos gerbron llys ynadon Casnewydd ar gyhuddiad o lofruddio dyn 27 oed.

Bu farw Ian Davies yn yr ysbyty ar ôl iddo gael ei anafu mewn digwyddiad yn Nhrinant ger Trecelyn yng Ngwent nos Sadwrn.

Mae Paul Mapps, 27, o Heol Marshfield wedi ei gyhuddo o lofruddio Ian Davies.

Fe wylodd yn y llys wrth iddo gadarnhau ei enw, ei oedran a’i gyfeiriad.

Fe fydd Mapps yn mynd o flaen un ai Llys y Goron Caerdydd neu Gasnewydd o fewn y 48 awr nesaf ar gyfer gwrandawiad.

Cafodd tri o bobl leol eraill eu harestio ar amheuaeth o lofruddio Ian Davies ond maen nhw bellach wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth tra bod ymchwiliad yr heddlu’n parhau.