Mae dynes o Ddenmarc wedi cael ei threisio gan grŵp o ddynion ger canolfan siopa ym mhrifddinas India ar ôl iddo golli ei ffordd yn ôl i’w gwesty.
Cafodd y ddynes 51 oed ei churo a chafodd ei heiddo ei ddwyn yn yr ymosodiad ddydd Mawrth yn Connaught Place, New Delhi, meddai llefarydd ar ran yr heddlu.
Fe lwyddodd y ddynes i ddychwelyd i’w gwesty ac roedd y perchennog wedi ffonio’r heddlu. Nid oes unrhyw un wedi cael eu harestio hyd yn hyn.
Dyma’r achos diweddara sydd wedi hawlio sylw rhyngwladol ynglŷn â thrais yn erbyn merched yn India, ar ôl i ferch 23 oed gael ei threisio a’i llofruddio ar fws ym mis Rhagfyr 2012.