Logo Maes Awyr Frankfurt
Mae dau filwr o awyrlu’r Unol Daleithiau wedi’u lladd a dau arall wedi’u hanafu, ar ôl i ddyn eu saethu â dryll mewn maes awyr yn yr Almaen.

Dywedodd Barack Obama fod yr ymosodiad ym maes awyr Frankfurt ddoe yn “weithred warthus”.

Mae’r heddlu yn drwgdybio dyn 21 blwydd oed o Kosovo oedd yn gweithio yn y maes awyr.

Mae’n cael ei holi gan yr awdurdodau ar hyn o bryd, meddai llefarydd ar ran Heddlu Frankfurt.

Mae’n debyg fod y dyn, sy’n Fwslim, wedi dechrau ffraeo â’r milwyr, cyn eu saethu gan ladd dau ac anafu dau arall.

Mae Canghellor yr Almaen, Angela Merkel  wedi dweud ei bod hi’n cydymdeimlo ac wedi addo ymchwilio i’r drosedd.