Bradley Manning
Gallai’r milwr sydd dan amheuaeth o ddosbarthu rhai o ddogfennau mwyaf cyfrinachol yr Unol Daleithiau i WikiLeaks wynebu’r gosb eithaf petai’n euog.

Mae Bradley Manning, gafodd ei fagu am gyfnod yn Sir Benfro, wedi ei gyhuddo o 22 trosedd ychwanegol heddiw, gan gynnwys “helpu’r gelyn”.

Mae’n bosib cosbi’r cyhuddiad hwnnw gyda’r gosb eithaf yn Unol Daleithiau, er bod erlynwyr wedi dweud na fyddan nhw’n galw am hynny.

Fe fydd yr erlynwyr yn gofyn ei fod yn cael oes yn y carchar a chael ei israddio a’i ddiarddel gan y fyddin.

Cyhuddiadau eraill

Daw’r cyhuddiadau newydd yn dilyn saith mis o ymchwil gan fyddin America, sydd wedi cyhuddo Bradley Manning, 23, o lawrlwytho gwybodaeth gyfrinachol o gyfrifiaduron y llywodraeth, yn anghyfreithlon, er mwyn ei ryddhau i wefan Wikileaks.

Dadansoddwr gwybodaeth yn Irac oedd Bradley Manning, tan yn ddiweddar. Roedd y milwr eisoes yn wynebu cyhuddiadau o “drosglwyddo data cyfrinachol” a “rhannu gwybodaeth gyda ffynhonnell heb ei hawdurdodi”, cyhuddiadau allai olygu ei fod yn treulio 52 mlynedd yn y carchar.

Cafodd Bradley Manning ei arestio ym mis Mai’r llynedd, ond mae’r achos llys wedi ei ohirio tra bod ymchwiliad meddygol yn cael ei gynnal i’w gyflwr meddyliol.

Mae’n cael ei gadw yn y ddalfa mewn canolfan filwrol yn Quantico, Virginia, i’r de o Washington, ar hyn o bryd.