Mae arweinydd grwp terfysgol sy’n gysylltiedig ag al Qaida ac sydd wedi bod yn weithredol ar hyd a lled y Dwyrain Canol cyn canolbwyntio ei sylw ar ryfel cartref Syria, wedi marw mewn carchar yn Libanus.

Y gred ydi fod Majid al-Majid wedi marw oherwydd i’w arennau fethu. Roedd wedi bod yn y carchar ers diwedd y mis diwetha’.

Roedd ar restr y 85 o bobol yr oedd awdurdodau ei wlad ei hun, Saudi Arabia, am eu dal.