Mae ymladdwyr tân wedi diolch i bobol Cymru am eu cefnogaeth a’u dealltwriaeth yn ystod streic arall gynhaliwyd ganddyn nhw fore heddiw.

Fe fuon nhw’n gweithredu’n ddiwydiannol rhwng 6.30yb a 8.30yb heddiw, fel rhan o’u hanghydfod ynglyn â phensiynau ac amodau gwaith gyda Llywodraeth Prydain.

“Diolch unwaith eto i’r cyhoedd am eu cydweithrediad,” oedd neges Gwasanaeth Tân Gogledd Cymru ar y wefan gymdeithasol, Trydar heddiw.

Mae’r gwasanaethau ar hyd a lled Cymru yn gofyn i bobol fod yn ofalus iawn yn eu cartrefi yn ystod cyfnod eu streicio.