Mae pump o bobol wedi’u lladd yng Nghanada o ganlyniad i wenwyn Carbon Monocsid, wrth i filoedd o gartrefi fod heb wres na phwer yn dilyn storm rew y penwythnos diwetha’.

Mae cwmnïau ynni wrthi’n gweithio er mwyn dod â phwer yn ôl i dros 500,000 o gartrefi sydd wedi’u gadael yn y tywyllwch a’r oerfel gan dywydd garw.

Mae heddlu Ontario yn dweud i ddau o bobol farw ar ôl defnyddio generadur nwy er mwyn cynhesu eu cartre’ ger Toronto; ac mae heddlu Quebec wedi cadarnhau mai Carbon Monocsid sydd wedi gwenwyno a lladd tri o bobol mewn chalet yn North Shore hefyd.

Roedd y storm yn un o’r rhai gwaetha’ i daro Canada yn ystod wythnos y Nadolig.