Mae’r Weinyddiaeth Amddiffyn wedi cyhoeddi bod milwr o gatrawd y Peirianwyr Brenhinol wedi cael ei ladd yn Afghanistan.

Roedd wedi cael ei saethu i’r dwyrain o’r brifddinas Kabul ddoe. Ef oedd y nawfed milwr Prydeinig i gael ei ladd eleni.

Mae cyfanswm o 447 o aelodau lluoedd arfog Prydain wedi marw yn Afghanistan ers cychwyn y gweithredu milwrol yno yn 2001.