Milwyr yn Afghanistan (Swarm CCA 3.0)
Fe ddylai’r Unol Daleithiau fynd ati ar unwaith i drafod gyda’r Taliban yn Afghanistan, meddai pwyllgor o aelodau seneddol.

Maen nhw’n rhybuddio y gallai cynyddu’r rhyfela yno arwain at danseilio’r ymdrechion i gael trefniant gwleidyddol tymor hir.

Yn ôl adroddiad y Pwyllgor Dethol ar Faterion Tramor, mae yna “nifer o beryglon” ynghlwm wrth y bwriad i dynnu’r fyddin o Afghanistan yn 2015.

Maen nhw hefyd yn dweud bod angen tynnu gwahaniaeth rhwng y Taliban ac Al Qaida, gan ddweud bod deall hynny’n hanfodol.

Does dim angen ymosodiad llawn ar y Taliban er mwyn rhwystro Al Qaida rhag dod yn ôl i’r wlad, medden nhw, a does dim sicrwydd y byddai’n llwyddo beth bynnag.

Sylwadau’r Cadeirydd

“Heb arweiniad gwleidyddol, mae peryg y bydd yr ymgyrch filwrol ar hyn o bryd yn anfwriadol yn tanseilio’r ymdrechion i gael ateb gwleidyddol,” meddai Cadeirydd y Pwyllgor, y Ceidwadwr Richard Ottaway.

“Ddylai’r UDA ddim oedi cyn cymryd rhan arwyddocaol mewn trafodaethau gydag arweinwyr y Taliban, oherwydd, heb gefnogaeth yr Unol Daleithiau yn hynny o beth, fydd dim heddwch tymor hir yn Afghanistan.

“R’yn ni’n amau’r dybiaeth sylfaenol bod modd prynu llwyddiant yn Afghanistan trwy strategaeth o ‘glirio, dal gafael ac adeiladu’.”