Mae awyren ar ei ffordd i Dde Swdan i geisio symud Prydeinwyr o’r wlad, yn ôl y Swyddfa Dramor.
Mae’r ymladd wedi gwaethygu yn y dalaith yn Nwyrain Affrica yn dilyn adroddiadau am ymdrech i gipio’r brifddinas Juba dros y penwythnos.
Dywed y Swyddfa Dramor bod mwy na 150 o Brydeinwyr wedi cysylltu â nhw ac yn awyddus i adael y wlad, ac mae’r DU wedi anfon awyren yno i helpu i’w cludo oddi yno.