Gweddillion meindwr yr eglwys gadeiriol (Steve Henry CCA 3.0)
Mae bachgen pum mis oed wedi’i gladdu heddiw yn yr angladd cyntaf i rai a fu farw yn naeargryn Seland Newydd.

Mae nifer y meirw wedi codi i 148 ac mae’r Llywodraeth y wlad wedi awgrymu y gallai’r trychineb gostio cymaint â £9.3 biliwn.

Mae pedwar o bobol o wledydd Prydain ymhlith y meirw a’r disgwyl yw y bydd y cyfanswm yn codi i fwy na 200.

Roedd dwsinau o berthnasau a ffrindiau mewn capel bach yn Christchurch i gladdu Baxtor Gowland a oedd yn cysgu pan ddaeth y daeargryn ddydd Mawrth diwethaf. Fe fu farw yn yr ysbyty yn fuan wedyn..

Dim ond enwau wyth o’r meirw sydd wedi eu cyhoeddi’n swyddogol hyd yn hyn – yn ôl yr awdurdodau mae’r dasg o’u hadnabod  yn “araf ac anodd.”

Cymorthdaliadau

Mae Prif Weinidog Seland Newydd, John Key, wedi cyhoeddi’r pecynnau ariannol cyntaf i helpu’r ddinas  – cymorthdaliadau i 50,000 o bobol sy’n methu â dychwelyd i’w gwaith oherwydd y difrod.

Mae swyddogion yn credu bod un ym mhob tri o’r adeiladau yn yr ardal fusnes yng nghanol y ddinas wedi’u difrodi ac y bydd yn rhaid eu dymchwel a’u hailadeiladu.

A hithau’n chwe diwrnod ers i neb gael ei ffeindio’n fyw, mae achubwyr yn cydnabod bod angen gwyrth i gael hyd i ragor o oroeswyr.

Ddoe, roedd yna wasanaethau i gofio’r dioddefwyr, gan gynnwys seremoni draddodiadol hefyd gan aelodau o gymuned frodorol Maori Seland Newydd y tu allan i’r eglwys gadeiriol i fendithio ysbrydion y meirw sydd wedi’u claddu dan y rwbel.