Map o wefan Wikipedia yn dangos lleoliad Latvia yn y Môr Baltig
Mae achubwyr yn parhau i chwilio am 10 o bobl sy’n dal ar goll ar ôl i do archfarchnad ddymchwel yn Riga, prifddinas Latvia.

Mae 52 o farwolaethau wedi cael eu cadarnhau yn nhrychineb gwaethaf y wlad ers iddi adennill ei hannibyniaeth yn 1991.

Mae’r arlywydd wedi disgrifio’r trychineb fel ‘llofruddiaeth’.

“Mae hwn yn achos lle mae angen inni ddweud yn glir bod nifer anferthol o bobl ddiamddiffyn wedi cael eu lladd,” meddai’r Arlywydd Andris Berzins.

Mae’r heddlu wedi cychwyn ymchwiliad, mac mae’r llywodraeth wedi cyhoeddi tri diwrnod o alaru yn y wlad.