Hamad-Bin-Isa-Al-Khalifa, brenin BahrainFile
Mae rhannau o Manama, prifddinas Bahrain, wedi cael eu parlysu heddiw wrth i ddegau o filoedd brotestio yn erbyn y llywodraeth.

Gydag o leiaf dair gorymdaith fawr, parhau mae’r pwysau ar frenin a llywodraethrwyr y deyrnas fach yng ngwlff Persia.

Mae rhai o’r gorymdeithwyr yn honni bod yr awdurdodau’n parhau i ddal mwy na 200 o garcharorion gwleidyddol er bod tua 100 wedi cael eu rhyddhau’r wythnos ddiwethaf.

Mae saith o bobl wedi cael eu lladd yn ystod y protestiadau a’r gwrthdaro dros y pythefnos ddiwethaf.

Dywed llefarydd ar ran y frenhiniaeth eu bod nhw’n cynnig trafodaethau gyda’r gwrthwynebwyr.