Mae’r heddlu yn Ffrainc wedi cyhoeddi enw’r dyn a gafodd ei arestio ar gyhuddiad o saethu ffotograffydd papur newydd a thri ymosodiad arall ym Mharis.

Cafodd y dyn ei arestio mewn maes parcio ger Paris ddoe yn dilyn ymdrech dros y deuddydd blaenorol i ddod o hyd i’r dyn arfog.

Yn ôl y gweinidog Manuel Valls, Abdelhakim Dekhar yw’r dyn sydd wedi cael ei arestio. Cafodd ei ddedfrydu ym 1998 am ei ran mewn lladrad yn 1994 pan gafodd tri o blismyn a gyrrwr tacsi eu lladd.

Fe dreuliodd pedair blynedd yn y carchar.

Nid yw’n glir ar hyn o bryd beth oedd y cymhelliad y tu ôl i’r ymosodiadau ond yn ôl profion DNA, mae’n ymddangos bod Dekhar yn gweithredu ar ei ben ei hun pan saethodd ffotograffydd yn swyddfa’r papur newydd Liberation ddydd Llun.

Mae hefyd yn cael ei amau o danio gwn tu allan i fanc Societe Generale, cadw gyrrwr yn wystl ar ôl dwyn ei gar, ac ymosodiad tebyg dridiau cyn hynny pan oedd wedi bygwth saethu staff yn swyddfa’r rhwydwaith newyddion BFM-TV.

Yn ôl Manuel Valls, roedd Dekhar wedi ceisio lladd ei hun cyn cael ei arestio.

Mae’r ffotograffydd 23 oed a gafodd ei saethu mewn cyflwr sefydlog yn yr ysbyty.