Y Dail Eireann - senedd Iwerddon
Mae darpar-Taoiseach Iwerddon, Enda Kenny, wedi addo y bydd yn symud yn gyflym i greu llywodraeth glymblaid newydd.
Ac un o’u weithredoedd cynta’ fydd ceisio ail-drafod amodau’r cytundeb ariannol gyda Chronfa Ariannol y Byd a’r Undeb Ewropeaidd.
Fe ddywedodd bod llwyddiant ei blaid, Fine Gael, yn chwalu hen lywodraeth Fianna Fail yn “chwyldro democrataidd trwy’r blwch pleidleisio”.
Mae’n gobeithio cwblhau trafodaethau gyda’r Blaid Lafur ‘o fewn y dyddiau nesa’.
Crasfa i Fianna Fail
Mae’r glymblaid yn edrych yn sicr ar ôl i Fianna Fail gael yr etholiad gwaetha’ yn eu hanes wrth i bobol Iwerddon ddial am y chwalfa ariannol yno.
Fe fydd grŵp sylweddol o wleidyddion annibynnol yn y Dail newydd hefyd ac mae’n ymddangos y bydd gan Sinn Fein, dan arweiniad eu Llywydd Gerry Adams, gymaint â 15 o seddi.
Fe ddaeth Adams yn gynta’ yn sedd Louth, ger y ffin gyda Gogledd Iwerddon.
Fe gafodd rhai o wleidyddion pwysica’ ac aelodau o rai o deuluoedd amlyca’ Fianna Fail eu curo, gan gynnwys y Tanaiste – y dirprwy Brif Weinidog – Mary Coughlan yn Ne-orllewin Donegal.
Y canlyniadau
Ar ôl canlyniadau yn 85 o’r 165 sedd, dyma’r sgôr:
Fine Gael 37
Llafur 22
Annibynnol 9
Fianna Fail 8
Sinn Fein 7
C.U. y Chwith 2