Y Cyrnol Gaddafi
Fe gytunodd Pwyllgor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig i weithredu yn erbyn y Cyrnol Gaddafi a’i deulu.

Fe fyddan nhw’n anfon achos Libya at y Tribiwnlys Troseddau Rhyfel, ynghanol adroddiadau bod cymaint â 1,000 o brotestwyr wedi cael eu lladd gan filwyr yr Arlywydd.

Fe fydd arian ac eiddo teulu’r Cyrnol yn cael eu rhewi ac fe fyddan nhw a deg o’i gydweithwyr agosâ’n cael eu gwahardd rhag teithio. Fe fydd gwaharddiad hefyd rhag gwerthu arfau i Libya.

Dim gwaharddiad hedfan

Ond doedd yna ddim penderfyniad i atal hedfan gan awyrennau Libya – mae rhai wedi galw am hynny er mwyn rhwystro lluoedd Gaddafi rhag saethu ar y protestwyr.

Ar ôl trafod hir, fe gytunodd y Pwyllgor o 15 y byddai achos Libya’n cael ei anfon at y Tribiwnlys, oherwydd “troseddu mawr a systematig yn erbyn hawliau dynol, gan gynnwys sathru ar brotestiadau heddychlon”.

Roedd diplomyddion Libya yn y Cenhedloedd Unedig wedi anfon llythyr yn dweud eu bod nhw’n cefnogi’r gweithredu – maen nhw ymhlith nifer o wleidyddion a gweision sifil sydd wedi troi cefn ar lywodraeth Gaddafi.

Awyrennau rhyfel yn achub gweithwyr olew

Mae’r gwaith o geisio achub Prydeinwyr o Libya hefyd yn mynd yn ei flaen wrth iddi ddod yn amlwg bod dwy awyren filwrol Hercules wedi codi gweithwyr olew o ganol yr anialwch.

Y gred yw bod lluoedd arbennig, fel yr SAS, wedi mynd i mewn i’r wlad i wneud yn siŵr bod yr awyrennau’n gallu glanio a chodi’n ddiogel.

Yn y cyfamser, mewn galwad ffôn at Ganghellor y Almaen, roedd Arlywydd yr Unol Daleithiau, Barack Obama, wedi galw ar Muammar Gaddafi i fynd ar unwaith.