Mae cefnogwyr y grwp Islamaidd milwriaethus Hizb-ut-Tahrir wedi bod yn protestio yn Llundain heddiw, gan alw am ddiwedd llywodraethau ‘pypedau’ yn y Dwyrain Canol.

Roedd torfeydd ar hyd y pafinau gerllaw llysgenhadaeth Libya yn protestio yn erbyn cyfundrefn Muammar Gaddafi, gyda phrotestwyr yn chwifio baneri’n galw am khilafah – y ffordd Islamaidd o fyw.

Gyda’r protestwyr yn gweiddi ar i Gadaffi ymddiswyddo, roedd rhai o’r baneri’n datgan: “Khilafah – Yr unig ffordd i sefydlogrwydd yn y Dwyrain Canol” a “Dim cefnogaeth i bypedau unbeniaethol Arabaidd”.

Meddai Nasim Ghani, 40, meddyg o Bangladesh sy’n byw yn nwyrain Llundain: “Mae arnom eisiau gweld diwedd y cyfundrefnau yma yn y byd Mwslimaidd. Yr hyn y mae arnom ei eisiau yw gwir annibyniaeth a’r unig ffordd i gael hynny yw trwy system Islamaidd newydd.”

Meddai un o’i gyd-brotestwyr, Muhydin Lazikani, 59, newyddiadurwr o Syria sy’n byw yn Wimbledon: “Rydyn ni’n cefnogi’r mudiad rhyddid. Mae pobl Libya’n haeddu bod yn rhydd. Maen nhw’n ymladd yn galed, maen nhw’n byw’n galed ac mae arnyn nhw angen rhyddid. Mae arnyn nhw angen cymdeithas agored.”