Mae o leiaf 13 o bobl wedi cael eu lladd mewn dau ffrwydrad yn Afghanistan.

Fe fu farw naw o bobl y tu allan i ddinas Khost yn nwyrain y wlad ar ôl i’w cerbyd daro bom ar ochr y ffordd. Yn ôl awdurdodau’r wlad, roedd y dioddefwyr yn cynnwys tri dyn, dwy ddynes a phedwar o blant.

Yn y digwyddiad arall, cafodd o leiaf bedwar o bobl eu lladd mewn ymosodiad gan hunan-fomiwr mewn maes chwarae yn ngogledd-orllewin y wlad. 

Cafodd 19 o bobl eraill eu hanafu yn yr ymosodiad.

Yn ôl llywodraethwr talaith Faryab, roedd y bobl yn chwarae buzkashi, gêm draddodiadol yn y wlad, lle mae chwaraewyr yn ymrafael am garcas gafr.