Pacistan
Mae llywodraeth Pacistan wedi gorchymun cyrffyw yn ninas Rawlapindi ar ôl i saith o bobl gael eu lladd a 35 eu hanafu yn ystod gorymdaith grefyddol drefnwyd gan y garfan Fwslemaidd Shiite.

Mae trigolion y ddinas wedi cael eu gorchymun i aros yn eu cartrefi hyd nes y cawn nhw glywed yn wahanol ac mae milwyr a’r heddlu ar batrol ar y strydoedd er mwyn sicrhau bod pawb yn cadw at y gorchymun.

Cafodd y saith Sunni eu lladd yn ystod gorymdaith i nodi Ashoura, un o ddigwyddiadau mwyaf pwysig y garfan Shiite.

Cafodd dau fosg Shiite eu llosgi ac fe wnaeth rhai aelodau Shiite wedyn fwrw ati i losgi dwsinau o siopau er mwyn dial ar y Sunni.