Rob Ford, Maer Toronto
Mae cynghorwyr Toronto yng Nghanada gam yn agosach at dynnu yr holl awdurdod oddiwrth maer y ddinas oherwydd ei ymddygiad.

Mae’r Maer, Rob Ford wedi cael llawer o gyhoeddusrwydd yn ddiweddar am or-yfed a defnyddio cyffuriau.

Cafodd dogfennau llys eu rhyddhau yn dangos bod y Maer wedi cael ei holi gan yr heddlu ar ôl cael ei ddal ar fideo yn ’smygu cocên

Mae cyn weithwyr y cyngor hefyd wedi cyhuddo’r Maer o yfed yn gyson, gyrru dan ddylanwad alcohol ag ymddwyn mewn modd rhywiol tuag at un o’r merched ar ei staff.

Fe wnaeth Cyngor Tornoto bleidleisio o 39 – 3 i’w atal rhag penodi a di-swyddo y dirprwy faer a’r pwyllgor gwaith.

‘Does gan y cyngor ddim hawl i ddi-swyddo’r Maer onibai ei fod yn cael ei garcharu am drosedd.

Dydd Llun nesaf fe fydd y cyngor yn gweithredu i geisio tynnu gweddill ei awdurdod oddi arno.

Mae’r Maer wedi dweud ei fod am fynd a’r cyngor i’r llys am fod ganddo fandad gan yr etholwyr oherwydd maint ei fwyafrif yn yr etholiad diwethaf.