Gweddillion siop chips yn Christchurch (Martin Luff CCA 3.0)
Fe fydd hi’n cymryd misoedd cyn y bydd canol Christchurch yn ddiogel unwaith eto, yn ôl yr awdurdodau.

Mae peirianwyr wedi bod yn asesu cyflwr adeiladau yn yr ardal fusnes ar ôl daeargryn dydd Mawrth ac yn dweud y bydd rhaid chwalu ac ailgodi traean ohonyn nhw.

Mae llawer o’r adeiladau’n ansad ac yn beryglus ac fe syrthiodd rhagor o rwbel i’r ddaear ddoe wedi ôl-gryndod arall.

Erbyn hyn, mae nifer y meirwon yn Seland Newydd wedi codi i 145 gyda mwy na 200 o bobol yn dal i fod ar goll yn y rwbel.

Dal i chwilio

Er bod 600 o achubwyr yn chwilio am bobol sydd wedi goroesi ddaethon nhw ddim o hyd i neb arall tros nos ond mae Maer y ddinas, Bob Parker, wedi rhoi sicrwydd i berthnasau y byddan nhw’n parhau i chwilio.

Yn ôl Prif Weinidog Seland Newydd, John Key, mae’n bosib mai dyma’r un digwyddiad mwya’ trasig yn hanes y wlad.

Fe alwodd am gynnal dau funud o dawelwch trwy Seland Newydd ddydd Mawrth, union wythnos wedi i’r daeargryn daro.