Mae’r Unol Daleithiau wedi cymryd y camau rhyngwladol cynta’ yn erbyn Libya trwy rewi arian ac eiddo’r Cyrnol Gaddafi a’i deulu a’r wlad ei hun.

Yn ôl yr Arlywydd Barack Obama, mae’r helyntion yn Libya yn fygythiad “anarferol a neilltuol” i bolisi tramor yr Unol Daleithiau ac i’w diogelwch.

Roedd llywodraeth y Cyrnol Gaddafi wedi colli ei holl hygrededd, meddai.

Mae disgwyl y bydd yr Undeb Ewropeaidd a’r Cenhedloedd Unedig hefyd yn ystyried sancsiynau yn erbyn Libya.

Yn ôl papur y Times heddiw, mae gan Gaddafi a’i deulu werth biliynau o bunnoedd o eiddo yng nghanol Llundain.

Mae gweithredoedd yr Unol Daleithiau’n enwi Muammar Gaddafi ei hun, tri o’i feibion a’i ferch.

Yr ymladd yn parhau

Ond mae’r ymladd yn parhau yn Libya ei hun, gyda lluoedd sy’n cefnogi Gaddafi yn ymosod eto ar brotestwyr.

Roedd yna adroddiadau eu bod wedi saethu pobol yn eu pennau wrth iddyn nhw gasglu ynghanol y brifddinas, Tripoli.

Roedd yna ymladd caled hefyd yn un o ganolfannau’r llu awyr tua 100 milltir o Tripoli, gyda lluoedd Gaddafi’n ceisio’i chipio’n ôl o ddwylo’r gwrthdystwyr.