Clirio’r difrod ar ôl Seiclon Phallin yn Berhampur, India y bore yma (APA Photo/Bikas Das)
Mae hanner miliwn o bobl wedi gorfod gadael eu cartrefi yn India i geisio lloches rhag Seiclon Phallin.
Mae’r storm yn dechrau gostegu erbyn hyn ond dim ond dechrau mae’r gwaith o asesu’r difrod.
Mae rhan helaeth o’r arfordir dwyreiniol heb drydan ers i wyntoedd o hyd at 130 milltir yr awr daro neithiwr, ac mae degau o filoedd o gytiau mwd wedi cael eu golchi i ffwrdd gan lifogydd o’r môr.
Yn ôl yr adroddiadau cyntaf, mae pump o bobl wedi cael eu lladd gan ganghennau’n disgyn, ond gall nifer y marwolaethau godi.
Hon oedd y storm gryfaf i daro India ers 1999.