Mae’r heddlu’n chwilio am dair merch ysgol sydd wedi bod ar goll ers oriau mân fore Gwener.

Daw’r tair o ardal Alcester yn swydd Warwick, ond mae chwilio’n digwydd yn ogystal yng Nghaerdydd, Manceinion a Birmingham gan fod y merched wedi bod mewn cysylltiad â phobl yn y dinasoedd hyn.

Caiff y tair eu disgrifio fel a ganlyn:

  • Naomi Smallwood, 16 oed, 5 troedfedd 7 modfedd o daldra, tenau gyda gwallt golaua phinc
  • Sophie Hands, 15 oed, 5 troedfedd 6 modfedd, tenau gyda gwallt pinc hir wedi’i eillio ar un ochr.
  • Jenny Mitchell, 14 oed, 5 troedfed 8 modfedd, gyda gwallt golau â lliwiau pinc ac oren, wedi’i eillio ar un ochr.

Caiff y tair eu hystyried yn rhai agored i niwed oherwydd eu hoedran.

Gofynnir i unrhyw un â gwybodaeth ffonio’r heddlu ar 101.