Ynys Lampedusa ger Sisili
Mae’r awdurdodau yn yr Eidal wedi ail gychwyn chwilio am ragor o gyrff ar ôl i long bysgota fynd ar dân a suddo ger ynys Lampedusa sydd yn agos i Sisili dydd Iau.

Mae nhw wedi dod o hyd i 111 o gyrff hyd yma ond mae dros 250 yn dal ar goll.

Cafodd 155 eu hachub ar ôl i dân gynnau ar y llong oedd yn cludo ffoaduriaid i’r Eidal.

Roedd tywydd garw wedi achosi iddyn nhw roi’r gorau i chwilio ond yn ôl Leonardo Ricci sy’n brif swyddog efo’r heddlu, fe fydd y chwilio yn parhau “tra bod y môr yn llonydd a’r golau’n parhau.”

Cyfarfod brys

Mae llywodraeth Ffrainc wedi galw am gyfarfod brys o’r Undeb Ewropeaidd ar ôl i’r Eidal ofyn am gymorth aelodau’r Undeb i ymateb i’r llu ffoaduriaid sy’n heidio i’r Eidal o Ogledd Affrica.

Mae llywodraeth yr Eidal wedi dweud y bydd y ddeddfwriaeth ynglyn â mewnfudwyr yn cael ei newid gan bod rhai deddfau yn annog pobl i beidio cynnig cymorth i ffoaduriaid sydd mewn trafferthion.