Malala Yousafzai
Mae’r Frenhines wedi gwahodd y ferch saethwyd yn ei phen gan y Taliban ym Mhacistan flwyddyn yn ôl i dderbyniad ym Mhalas Buckingham.
Cafodd Malalz Yousafzai ei saethu yn ei phen gan y Taliban ym Mhacistan oherwydd ei hymgyrch i sicrhau bod genethod yn cael addysg yn y wlad.
Fe wnaeth y bwled fynd trwy’i llygad chwith gan osgoi’r ymenydd ond ar ôl derbyn triniaeth dwys yn Ysbyty’r Plant yn Birmingham fe wnaeth wella a hynny’n groes i’r disgwyl.
Ers hynny mae wedi parhau a’i hymgyrch gan annerch cyfarfod o’r Cenhedloedd Unedig.
Bydd yn mynychu Derbyniad Prifysgolion as Addysg y Gymanwlad ar 18 Hydref am fod y Frenhines yn edmygu ei dewrder yn ôl swyddogion y Palas.