Logo plaid Qadri Jamil - plaid Ewyllys y Bobol
Mae un o wleidyddion amlyca’ Syria wedi awgrymu y bydd y llywodraeth yno’n galw am gadoediad.

Ac, yn ôl Dirprwy Brif Weinidog y wlad, fe fydd y drefn yno’n sicr o newid, os byddan nhw’n cael llonydd.

Does dim modd i’r naill ochr na’r llall ennill y rhyfel, meddai Qadri Jamil, gan awgrymu y byddai Syria’n galw am gadoediad gyda’r gwrthryfelwyr mewn cyfarfod o’r Cenhedloedd Unedig yr wythnos nesa’.

Fe fydden nhw hefyd yn galw am roi diwedd ar “ymyrraeth o’r tu allan” ac am greu proses wleidyddol heddychlon.

Yn yr un cyfarfod, fe fydd Dirprwy Brif Weinidog Prydain, Nick Clegg, yn galw am roi mwy o arian i helpu ffoaduriaid a dioddefwyr yn Syria.

Beth ddywedodd Qadri Jamil

“Dyw naill ai’r gwrthryfelwyr arfog na’r llywodraeth am allu curo’r llall,” meddai Qadri Jamil. “Fydd y cydbwysedd yma ddim yn newid am dipyn.

“Ddylai neb ofni y bydd y drefn bresennol yn parhau fel y mae. I bob pwrpas, mae’r drefn yn ei ffurf gynharach wedi dod i ben.

“Er mwyn cyflawni ein diwygiadau blaengar, r’yn ni angen i’r Gorllewin a phawb sy’n ymwneud â Syria i roi llonydd i ni.”

Qadri Jamil yw arweinydd plaid Ewyllys y Bobol ac mae wedi siarad cyn hyn am y posibilrwydd o newid yn Syria.