Y Costa Concordia wedi'r ddamwain
Mae’r gwaith o godi’r llong bleser, y Costa Concordia, oddi ar greigiau yn yr Eidal wedi cael ei gwblhau.

Bu tîm arbenigol yn gweithio am 19 awr ddoe i godi’r llong oddi ar ei hochr.

Bu farw 32 o bobol wedi i’r llong daro creigiau yn Giglio ar arfordir Tuscany ar Ionawr 13 y llynedd. Roedd y Concordia wedi bod yn gorwedd ar ei hochr ers hynny.

Dywedodd arbenigwyr fod y gwaith wedi bod ddiwedd “perffaith” i gamp beirianegol, gan nad oes gwaith o’r fath wedi cael ei wneud o’r blaen i unioni llong mor fawr.