Mae llys yn India wedi dedfrydu pedwar dyn i farwolaeth am dreisio a lladd merch ifanc ar fws yn Delhi fis Rhagfyr y llynedd.

Bydd y pedwar dyn yn cael eu crogi am yr ymosodiad ar y ferch ifanc a arweiniodd at ei marwolaeth bythefnos ar ôl dioddef anafiadau difrifol.

Wrth alw am y gosb eithaf i’r pedwar dyn, dywedodd yr erlynydd Dayan Krishnan: “Does dim sy’n fwy ofnadwy na merch diymwared yn cael ei phoenydio.” Ychwanegodd bod y drosedd yn un ffiaidd gydag adroddiad yr heddlu yn dangos bod y dynion wedi tynnu rhannau o gorff y ferch allan ar ôl yr ymosodiad gyda gwialen ddur.

Bydd rhaid i’r ddedfryd gael ei chadarnhau gan yr Uchel Lys yn India ac mae gan y dynion hawl i apelio i’r Goruchaf Lys am drugaredd.