Mae disgwyl y bydd ffigurau newydd yn dangos bod arian yr Ewro wedi troi’r gornel.

Mae’r ystadegau diweddara’n debyg o ddangos ychydig o dwf economaidd yn yr ardal sy’n defnyddio’r arian Ewropeaidd.

Y disgwyl yw y byddan nhw’n dangos cynnydd o 0.1% neu 0.2%yn ystod y chwarter diwetha’, ar ôl chwe chwarter o grebachu.

Yr Almaen yn arwain

Fe fydd y ffigurau’n dangos hefyd mai’r Almaen sy’n benna’ gyfrifol am y cynnydd a bod gwledydd eraill, yn arbennig yn ne’r cyfandir, yn dal i grebachu, ond yn arafach nag o’r blaen.

Mae’r twf yn yr Almaen yn fwy na’r disgwyl ac mae Ffrainc hefyd wedi ail-ddechrau tyfu.

Yn ôl gwasanaeth newyddion Reuters, mae arbenigwyr economaidd yn Ewrop yn disgwyl i’r twf graddol barhau am o leia’ ddwy flynedd ac y bydd chwyddiant yn aros yn isel tan ddiwedd eleni.