Fe fydd cyfarfod cyhoeddus yn cael ei gynnal yn Llanelli i drafod y syniad o droi glo yn nwy o dan aber afon Llwchwr.
Eisoes, mae rhai pobol leol wedi dechrau gwrthwynebu’r datblygiad a fyddai mewn ardal bwysig o ran bywyd gwyllt a ger Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol.
Er hynny, mae’r cwmni datblygu, Cluff Natural Resources, yn mynnu bod y broses yn un gwbl ddiogel ac y gallai weddnewid sefyllfa ynni gwledydd Prydain.
Dwy drwydded
Er nad ydyn nhw wedi dechrau ar y broses o gael hawl cynllunio, mae’r cwmni wedi cael trwydded i droi glo yn nwy o dan aberoedd Llwchwr a Dyfrdwy yn y Gogledd.
- Yn y De-orllewin, mae’n ymestyn tros 10,000 o erwau i fyny aber afon Llwchwr o Borth Tywyn.
- Yn y Gogledd, mae’r ardal yn ymestyn o ochr Fflint i’r afon i benrhyn y Wirral, neu Gilgwri.
Y broses
Y syniad yw defnyddio miliynau o dunelli o lo sydd o dan y môr, gan ei losgi tan ddaear a chasglu’r nwy sy’n cael ei ollwng trwy’r broses.
Mae’n golygu gwneud dau dwll – un i bwmpio ocsigen tan ddaear a’r llall i gynaeafu’r nwy – gyda ffatri maint “hanner cae pêl-droed”.
Fe ddywedodd prif weithredwr y cwmni wrth Radio Wales y byddai’n rhaid iddyn nhw fodloni pob math o amodau o ran amgylchedd a chynllunio ac fe fydden nhw eisiau gwneud yn siŵr fod y ddaear ei hun yn sownd.
“Fe allai hyn newid y maes ynni yn llwyr,” meddai Algy Cluff wrth Radio Wales. “Mae’n bosib troi miliynau o dunelli o lo yn nwy. Mae’n rhaid i ni edrych arno’n ofalus.”