Wrth i filoedd o ddisgyblion aros i gael gwybod eu canlyniadau arholiadau TGAU a Safon Uwch mae Llywodraeth Cymru yn tynnu sylw at linell gymorth sydd ar gael i gynnig cefnogaeth emosiynol iddyn nhw yn ystod y cyfnod anodd hwn.
Mae Meic yn wasanaeth sy’n cynnig cyngor i blant a phobl ifanc hyd at 25 oed ac ar gael 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos.
Ers iddo ddechrau cynnig gwasanaeth 24/7 ym mis Ionawr 2011, mae dros 17,000 o blant a phobl ifanc wedi cysylltu â Meic,.
Mae’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru ac yn derbyn £850,000 y flwyddyn i gynnal y gwasanaeth.
Fe fydd y canlyniadau Safon Uwch yn cael eu cyhoeddi yfory.
Anobeithio
Ddoe, roedd ymchwil gan Ymddiriedolaeth y Tywysog yn dangos bod pobl ifanc yn anobeithio, a bod un o bob chwech o bobol ifanc yn disgwyl bod ar fudd-daliadau ar ryw gyfnod yn eu bywydau.
Roedd yr agweddau diobaith yn llawer uwch ymhlith pobol ifanc sy’n methu â chael o leiaf bump TGAU rhwng A* ac C.
‘Cyfnod anodd’
Dywedodd y Gweinidog Cymunedau, Jeff Cuthbert: “Mae’r adeg hon o’r flwyddyn yn gallu bod yn gyfnod anodd i bobl ifanc wrth iddyn nhw aros am ganlyniadau arholiadau ac ystyried yr opsiynau sydd ar gael iddyn nhw wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer y cam nesaf yn eu bywydau.
“Rydym am wneud yn siŵr eu bod yn gwybod nad ydyn nhw ar eu pen eu hunain, a bod ganddyn nhw rywle sy’n gyfrinachol, yn ddienw ac yn rhad ac am ddim i drafod eu pryderon ac i’w helpu i ddatrys eu problemau.
“Mae Meic wedi dangos y gall wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl, ac mae’n sicrhau bod lleisiau plant a phobl ifanc o bob cwr o Gymru’n cael eu clywed.”
Gellir cysylltu efo Meic ar www.meiccymru.org neu drwy ffonio 080880 23456