Gorsaf Fukushima wedi'r ffrwydrad ym mis Mawrth 2011
Mae llygredd ymbelydrol yn dal i ollwng i’r môr o weddillion atomfa Fukushima yn Japan, dros ddwy flynedd ar ôl iddi ffrwydro ym mis Mawrth 2011.
Dywed Tepco, y cwmni sy’n berchen arni, eu bod nhw’n cael trafferth rhwystro i ddŵr ymbelydrol sydd wedi ymgasglu o dan y ddaear rhag dianc.
Gan gyfaddef fod Tepco wedi bod yn araf wrth fynd i’r afael â’r broblem, dywedodd llefarydd ar ran y cwmni eu bod wedi gorfod rhoi blaenoriaeth i oeri’r adweithyddion yn gyntaf.
Mae gorsaf Dai-ichi Fukushima wedi mynd o un argyfwng i’r llall ers y ffrwydrad yn sgil y daeargryn a’r tsunami ym mis Mawrth 2011.
Mae’r cwmni hefyd wedi cael ei feirniadu’n gyson am gelu gwybodaeth am broblemau yno.
Y mis diwethaf oedd y tro cyntaf iddo gyfaddef bod dŵr ymbelydrol yn gollwng o’r atomfa i’r môr.