Kevin Rudd, Prif Weinidog Awstralia
Mae timau achub yn parhau i chwilio am ddwsinau o geiswyr lloches sydd ar goll ar ôl i’w cwch suddo oddi ar arfordir Indonesia.

Mae 150 wedi cael eu hachub ac mae tri o gyrff wedi eu tynnu o’r dŵr. Suddodd y cwch ar ei ffordd i Awstralia.

Dywedodd heddlu lleol fod oddeutu 204 o ymfudwyr ar y cwch gyda’r rhan fwyaf yn dod o Sri Lanka, Iran ac Irac.

Gadawodd y cwch dref arfordirol Jayanti ddydd Mawrth gyda’r bwriad o gyfarfod llong allan yn y môr i’w cludo gweddill y ffordd i Awstralia.

Mae’n ymddangos fod y cwch wedi ei gorlenwi pan suddodd rhyw naw awr ers cychwyn y daith. Cyrhaeddodd rhai o’r ymfudwyr fadau achub tra bod eraill wedi nofio cyn cael eu hachub.

Mae babi a merch ddeg oed ymysg y meirw.

Daw’r digwyddiad ddyddiau’n unig ar ôl i Brif Weinidog Awstralia, Kevin Rudd, ddiwygio polisi’r wlad yn ymwneud a ffoaduriaid fel bod ymfudwyr sy’n cyrraedd y wlad ar gwch yn cael eu gwahardd rhag aros yno.

Daw’r newid yn dilyn pwysau gwleidyddol a nifer o ddamweiniau’n ymwneud a chychod anaddas sy’n cael eu gorlenwi gyda cheiswyr lloches ar eu ffordd i Awstralia.

Dywedodd Kevin Rudd: “Mae gormod o bobl yn cael eu colli yn y môr. Bwriad y polisi newydd yma yw anfon neges glir i’r bobl hynny sy’n hebrwng ceiswyr lloches na fydd modd i chi aros yn Awstralia os dowch yma ar gwch.”