Heddlu Irac - targed tri ymosodiad heddiw
Mae bom car wedi lladd ac anafu plismyn a phobol gyffredin yng ngogledd Irac heddiw.

Fe ffrwydrodd y ddyfais gynta’ ym mhentre’ al-Athba ger dinas Mosul, wedi i yrrwr daro’i gar yn llawn ffrwydron yn erbyn gorsaf batrol yr heddlu.

Fe gafodd tri o bobol gyffredin eu lladd yn syth, ynghyd ag un plismon, ac fe gafodd chwech o bobol eraill eu hanafu.

Ymosodiadau eraill

130 milltir i’r gogledd o’r brifddinas, Baghdad, mae gwyr arfog ar gefn beic modur wedi saethu’n ddidrugaredd at gerbyd yn cario swyddogion yr heddlu.

Fe gafodd tri eu lladd, ac un arall ei anafu yn y digwyddiad yn Tuz Khormato.

Ac mae grwp arall o ddynion yn cario gynnau wedi taro stondin batrol gan yr heddlu yn ninas Samarra, gan ladd dau heddwas ac anafu pedwar.

Mae Samarra 60 milltir i’r gogledd o Baghdad.