Mae’r Taliban yn bwriadu agor swyddfa wleidyddol yn Qatar er mwyn ceisio dod o hyd i atebion gwleidyddol i’r rhyfel yn Afghanistan.

Mae llefarydd ar eu rhan yn dweud fod y grwp yn casau y modd y mae daear Afghanistan yn cael ei defnyddio i fygwth gwledydd eraill. Mae’r Taliban hefyd, meddai, yn cefnogi’r broses o drafod.

Mae’r ddau bwynt yma wedi bod ar ben rhestr llywodraethau’r Unol Daleithiau ac Afghanistan cyn bod y naill na’r llall yn fodlon trafod gyda’r Taliban.

Mae disgwyl i’r swyddfa gael ei hagor yn Doha.