Bashar Assad
Mae awyrennau rhyfel Syria wedi taro safleoedd y rebeliaid ger gwersyll milwrol yn Aleppo.

Fe darodd yr awyrennau ger gwersyll awyr Kweiras.

Mae’r gwrthryfelwyr sydd wedi bod yn ceisio cael gwared â’r Arlywydd Bashar Assad wedi bod wrthi ers misoedd yn trio cipio’r gwersyll sy’n agos i’r ffin â Thwrci.

Mae ymosodiadau heddiw yn rhan o ymgyrch yr arlywydd i adennill tiroedd a gafodd eu cipio gan y gwrthryfelwyr y llynedd.