Mae mwy na 4,000 o filwyr wedi cael gwybod eu bod wedi colli eu swyddi yn y rownd ddiweddaraf o ddiswyddiadau’r fyddin.
Mae cyfanswm o 4,480 o bersonél y fyddin wedi cael eu diswyddo wrth i’r Llywodraeth geisio lleihau’r nifer i 82,000 erbyn 2018.
Mae’r Weinyddiaeth Amddiffyn (MoD) wedi dweud bod y diswyddiadau yn angenrheidiol ond mynnodd na fyddai gallu gweithredol y fyddin yn cael ei heffeithio.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Amddiffyn, Philip Hammond, na fyddai diswyddiadau pellach yn y rownd nesaf o doriadau.
Dywedodd y Weinyddiaeth Amddiffyn bod 84% o’r rhai fydd yn colli eu swyddi eisoes wedi gwneud cais am ddiswyddiad gwirfoddol.
Mae milwyr sydd yn gwasanaethu, yn paratoi ar gyfer neu yn ymadfer o weithredoedd lle maen nhw’n derbyn lwfans gweithredol, fel yn Afghanistan, wedi eu heithrio o’r diswyddiadau yn ogystal â’r rhai sy’n gwella o anafiadau difrifol.
Dywedodd y Weinyddiaeth Amddiffyn y bydd angen i’r Fyddin wneud gostyngiadau pellach i gyrraedd ei tharged terfynol o 82,000. Bydd y toriadau pellach yn debygol o gynnwys rhagor o bersonél y Fyddin a nifer fach o staff meddygol a deintyddol y Llynges a’r Llu Awyr.
Dywedodd y Cadfridog Syr Peter Wall: “Mae’r cynllun diswyddo yn gam anodd ond yn hanfodol tuag at ein hail-strwythuro. Mae arnom ni ein diolch diffuant i’r rhai sy’n gadael y Fyddin am eu gwasanaeth dros gyfnod mor heriol.
“Byddwn yn eu cefnogi nhw a’u teuluoedd gystal ag y gallwn ni ar eu llwybr i fywyd cyffredin. Yn y cyfamser, rydym yn parhau i fod angen recriwtiaid ifanc a thalentog i sicrhau bod y Fyddin yn addas i gwrdd â’r heriau yn y dyfodol.”