Mae Prydain yn obeithioll o “wneud cynnydd go iawn” yng nghynhadledd yr G8 yng Ngogledd Iwerddon yr wythnos hon.

Roedd yn cyfeirio’n benodol at y rheolau trethi rhyngwladol sy’n caniatau i gwmnïau ac unigolion cyfoethog i osgoi talu eu siâr o drethi.

Mae Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, David Cameron, wedi rhoi’r mater ar restr o bynciau i’w trafod rhwng wyth o arweinwyr gwledydd amlyca’r byd.

Fe fydd y cyfarfodydd yng Ngogledd Iwerddon yn para deuddydd, lle bydd arweinwyr yr Unol Daleithiau, Ffrainc, yr Almaen, yr Eidal, Canada, Japan a Rwsia yn dod i drafod.

Mae David Cameron eisoes wedi sicrhau cefnogaeth gan ddeg o fannau yn y byd sy’n cael eu hystyried yn llefydd lle y gall cyfoethogion fynd â’u harian heb orfod talu treth.

Mae cwmnïau mawr, fel Google, Amazon a Starbucks, wedi dod dan y lach yn ystod y misoedd diwetha’ am weithredu oddi mewn i’r drefn bresennol er mwyn talu cyn lleied ag y medran nhw o drethi.