Mae AC Plaid Cymru, Ieuan Wyn Jones, wedi cyhoeddi y bydd yn sefyll i lawr o’r Cynulliad er mwyn cymryd yr her o arwain Parc Gwyddoniaeth newydd Menai.
Gan ddisgrifio ei hun fel un sydd “wedi ymrwymo i, ac yn angerddol am, greu gwell economi i Ynys Môn a gogledd orllewin Cymru”, dywedodd ei fod yn benderfynol o ddefnyddio ei sgiliau ac arbenigedd i sicrhau fod y Parc Gwyddoniaeth yn chwarae rhan flaenllaw yn cryfhau ac ehangu economi’r ardal.
Tynnodd sylw at y niferoedd uchel o bobl ifanc sydd yn gadael yr ardal ac at botensial prosiect y Parc Gwyddoniaeth i wrthdroi’r duedd honno drwy allu creu cyfleoedd gyrfa o werth uchel.
“Mae hi wedi bod yn fraint ac yn anrhydedd enfawr i mi gael cynrychioli a gwasanaethu pobl Ynys Môn, yn gyntaf yn Nhŷ’r Cyffredin ac yna yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru,” meddai.
“Yn fy araith gyntaf i’r Senedd ym 1987, dywedais fy mod wedi cael fy ethol i roi Ynys Môn ar fap gwleidyddol Cymru, ac rydw i’n falch fy mod wedi gallu cyflawni canlyniadau go iawn i’r ynys, fel AS ac fel AC a thrwy fy rôl fel Arweinydd Plaid Cymru ac fel Dirprwy Brif Weinidog Cymru a’r Gweinidog Economi a Thrafnidiaeth.
“Teimlaf ei fod wedi bod yn gymorth mawr i’r etholaeth gael llais ar y lefel uchaf ac rydw i’n falch fy mod wedi gallu cynrychioli f’etholwyr ar lefel genedlaethol hefyd.
“Credaf mai’r cyfraniad gorau y gallaf ei wneud yn ystod yr ychydig flynyddoedd nesaf yw arwain y prosiect i adeiladu Parc Gwyddoniaeth Menai, a defnyddio’r sgiliau a’r arbenigedd yr ydw i wedi eu datblygu dros y blynyddoedd i sicrhau ei fod yn chwarae rhan flaenllaw yn cryfhau ac ehangu ein sylfaen economaidd.”
Fe fydd Ieuan Wyn Jones dechrau ar ei swydd newydd ym mis Gorffennaf.