Rowan Williams
Cyn-Archesgob Cymru, yr Arglwydd Rowan Williams, ydi Canghellor newydd Prifysgol De Cymru.

Fe gafodd y penodiad ei gyhoeddi mewn derbyniad arbennig yn Whitehall yn Llundain ddoe.

Fe fu Rowan Williams yn Archesgob Caergaint o 2002 hyd at 2012, ac fe ddaeth yn Feistr Coleg Madlen yn ddiweddarach.

Fe fydd yn olynu’r Arglwydd Morris o Aberafan yn Ganghellor y brifysgol Gymreig.

Cafodd Prifysgol De Cymru ei sefydlu yn dilyn uno prifysgolion Casnewydd a Morgannwg.