Mae dyn wedi cael ei arestio ar amheuaeth o ladd dyn arall oedd yn ceisio driblo pêl-droed yr holl ffordd o’i gartref yn nhalaith Oregon i stadiwm Cwpan y Byd 2014 ym Mrasil.
Roedd Richard Swanson, 42 oed, wedi bod yn ceisio gyflawni’r gamp o ddriblo’r bêl 10,000 o filltiroedd er mwyn codi arian at brosiect One World Futbol, sy’n rhoi arian i wledydd sy’n datblygu.
Cafodd Scott Van Hiatt ei arestio ar amheuaeth o ladd trwy esgeulustod.
Byddai’r daith o Oregon i Sao Paolo wedi cymryd hyd at flwyddyn i’w chyflawni.
Roedd wedi gobeithio gorffen ei daith yn y stadiwm lle bydd gêm agoriadol y gystadleuaeth yn cael ei chynnal ar Fehefin 12 y flwyddyn nesaf.
Ond cafodd ei daro gan dryc ar Fai 14, bythefnos yn unig ar ôl dechrau’r daith. Mae Van Hiatt wedi’i gadw yn y ddalfa.
Mae’r heddlu wedi dweud nad ydyn nhw’n credu bod Richard Swanson yn driblo’r bêl pan gafodd ei daro, ond dydyn nhw ddim wedi rhyddhau rhagor o fanylion.